Croeso i wefan Addysg Gymraeg Wrecsam
Gweithredir y wefan hon fel hwb canolog i rannu gwybodaeth ac adnoddau ac er mwyn hyrwyddo a chefnogi taith iaith myfyrwyr a’u teuluoedd. Nôd y wefan ydi codi ymwybyddiaeth am yr ystod eang o gyfleoedd a chefnogaeth sydd ar gael ar gyfer plant a theuluoedd ysgolion cyfrwng Cymraeg Wrecsam gan hefyd grybwyll y cyfleodd ac opsiynnau ol-addysg i siaradwyr Cymraeg.
Y Gymraeg
- Mae oddeutu hanner miliwn o bobl yn gallu siarad Cymraeg yng Nghymru
- Nôd Llywodraeth Cymru ydi cynyddu y nifer o bobl sy’n siarad Cymraeg yng Nghymru i un miliwn erbyn 2050
- Cymraeg yw un o’r ieithoedd hynaf yn Ewrop, ac un o’r ieithoedd lleiafrifol cryfaf yn Ewrop
- Amddiffynir yr Iaith Gymraeg gan Gomisiynydd Iaith
- Mae’r nifer o weithleoedd sydd yn hysbysebu swyddi ble mae sgiliau yn y Gymraeg yn unai hanfodol neu’n ddymunol yn cynyddu
- Mae’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn cynyddu, gyda mwy a mwy o rieni yn cydnabod pwysigrwydd yr Iaith Gymraeg
Hyrwyddo darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg Wrecsam
Di-sodli'r myth


Cymraeg: o’r crud at yrfa
Newyddion diweddaraf

Dathlu Llwyddiant Darpariaeth Trochi a Cefnogi Hwyrddyfodiaid i'r Gymraeg yn Wrecsam
Mae'r gwasanaeth trochi a chefnogi hwyrddyfodiaid i'r Gymraeg yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi cyflawni llwyddiant nodedig, yn ol adroddiad diweddar gan Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Mae'r adroddiad hwn, sy'n seiliedig ar arolygiad a gynhaliwyd... Darllen mwy