Plant ysgol uwchradd yn Wrecsam

Trochi a Hwyrddyfodiaid i'r Gymraeg

Mae gan yr Awdurdod wasanaeth sy'n cefnogi hwyrddyfodiaid Cymraeg a'u hysgolion. Mae’r ymyrraeth yn cychwyn cyn gynted ag y bydd y plentyn wedi trosglwyddo i ysgol cyfrwng Cymraeg o fewn yr Awdurdod, a bydd y gwasanaeth yn parhau i gefnogi’r plentyn hyd nes bydd y plentyn wedi cyrraedd lefel ddigonol o gaffaeliad.

Mae plant yn anghredadwy o lwyddiannus wrth gaffael ieithoedd newydd ac mae’r mwyafrif helaeth yn parhau yn eu lleoliadau cyfrwng Cymraeg, gan fwynhau llwyddiant mawr yn eu hail iaith. Mae digon o gefnogaeth ar gael i’r plant, eu teuluoedd a’r ysgolion er mwyn sicrhau bod y daith yn gweithio i bawb.

O ganlyniad i gynnydd sylweddol yn nifer y plant sy'n dymuno trosglwyddo i ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r Awdurdod ar hyn o bryd yn edrych ar ffyrdd o gynyddu a datblygu eu darpariaeth bresennol. Bydd rhagor o wybodaeth am y datblygiadau hyn ar gael yn fuan.


Plentyn yn defnyddio VR
Plant uwchradd yn gweithio ar brosiect
Plant ysgol yn gwisgo clustffonau i ddysgu Cymraeg

Hwyrddyfodiaid Cynradd

Rydym yn croesawu ac yn cefnogi unrhyw blentyn sy’n dymuno trosglwyddo i ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg. Mae ein pecyn cymorth yn cynnwys:

Ymweld a'r wefan

Cwestiynnau cyffredin

C: Am ba hyd bydd fy mhlentyn yn cael cymorth gan y tîm Trochi Cymraeg?
A: Bydd eich plentyn yn cael ei gefnogi nes ei fod wedi cyrraedd lefel dda o gaffaeliad Cymraeg ac yn hyderus yn ei allu ei hun. Bydd pob plentyn yn cael ei gefnogi am gyfnodau amrywiol o amser yn dibynnu ar eu hoedran, ymgysylltiad, a llawer o ffactorau eraill. Byddwn yn parhau i gefnogi'r plentyn hyd nes fydd ddim ein hangen ar y plentyn mwyach.

C: Dydw i ddim yn siarad Cymraeg ac rwy’n poeni bydd fy mhlentyn yn methu oherwydd hyn.
A: Daw mwyafrif y plant sy’n mynychu ysgolion Cymraeg Wrecsam o gartrefi di-Gymraeg. Mae’r ysgolion a’r gwasanaethau cynhaliol wedi hen arfer cefnogi’r plant a’u teuluoedd ac mae gan bob plentyn gyfle cyfartal i ddod yn rhugl a ffynnu gyda’n cefnogaeth. Er nad ydych chi’n siarad Cymraeg mae yna ffyrdd eraill y gallwch chi gefnogi eich plentyn fel ymweld â’r Llyfrgell leol am lyfrau Cymraeg, chwarae Radio Cymru neu gwylio rhaglenni S4C gyda’ch gilydd (gydag isdeitlau), annog eich plentyn i ddefnyddio’r Gymraeg os ydych chi’n dod ar draws Cymraeg person sy'n siarad yr iaith ac wrth gymryd diddordeb yn yr hyn maent yn ei ddysgu.

C: Beth os byddaf yn penderfynu symud fy mhlentyn ond ei fod yn parhau i gael trafferth i ddysgu'r iaith?
A: Rydym wedi derbyn arian yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru i gynyddu ein capasiti gwasanaeth a chefnogaeth ac o ganlyniad rydym wedi agor canolfan cefnogi caffael iaith. Bydd y ganolfan hon yn cael ei defnyddio i redeg cyrsiau sy'n cynorthwyo plant gyda'u taith caffael iaith. Mae cyrsiau wedi’u cynllunio’n benodol i gefnogi gwahanol agweddau ar gaffael iaith ac o ganlyniad ‘rydym yn hyderus bydd cwrs priodol ar gael i’ch plentyn. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'ch ysgol neu anfonwch e-bost atom: trochi@wrexham.gov.uk


Trip ysgol i stiwdio CalonFM yn Wrecsam
Plant cynradd mewn dosbarth
Trip ysgol i fferm yng Ngogledd Cymru

Trochi’r Gymraeg ar gyfer Addysg Uwchradd

Mae’r cynllun Trochi Cymraeg yn galluogi disgyblion i drosglwyddo o ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg i gael mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Morgan Llwyd fel y nodir yn y Canllaw Rhieni i Wasanaethau Addysg yn Wrecsam 2023/2024. Gofynnir i chi ystyried a fyddai’n fanteisiol i’ch plentyn, yn nes ymlaen mewn bywyd, fod yn rhugl mewn dwy iaith a all mewn sawl ffordd gyfoethogi cyfleoedd yn enwedig gyda Strategaeth Llywodraeth Cymru: Cymraeg 2050 yn anelu at gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu rhagor o wybodaeth i rieni/gofalwyr wrth ystyried addysg cyfrwng Cymraeg ar y ddolen isod: https://cymraeg.gov.wales/learning/schools/Welshmediumeducation/?lang=cy

Gall disgyblion Blwyddyn 6 sy’n mynychu ysgolion cyfrwng Saesneg ar hyn o bryd ond sy’n dymuno cael mynediad i addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg, gael cymorth drwy’r cynllun trochi llwyddiannus sydd wedi’i leoli yn Ysgol Morgan Llwyd. Yma caiff disgyblion trochi eu cefnogi nes iddynt ddod yn rhugl, gan ymuno â dosbarthiadau prif ffrwd erbyn dechrau Blwyddyn 9. Cyn iddynt ymuno ar y cwrs trochi, bydd disgyblion yn cael y cyfle i gael eu cefnogi yn eu hysgol gynradd gan ein Tîm Allgymorth o fis Ionawr. Yn dilyn gwyliau’r Sulgwyn byddant yn cychwyn ar gwrs rhagflas o chwe wythnos yn Ysgol Morgan Llwyd. Mae hwn yn gyfle gwych I'r dysgwyr brofiadu’r uned Trochi heb ymrwymo’n llawn i'r cynnig. Os bydd eich plentyn yn ymuno â chwrs trochi Ysgol Morgan Llwyd ac yn cael anhawster i addasu i addysg cyfrwng Cymraeg byddant yn gallu dewis addysg uwchradd cyfrwng Saesneg ym mis Medi. Dros y deng mlynedd diwethaf mae nifer fawr o ddisgyblion wedi trosglwyddo i Ysgol Morgan Llwyd o ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg ac wedi addasu’n ddi-dor i addysg cyfrwng Cymraeg, gan gyflawni’n dda iawn yn eu cymwysterau TGAU.

Mae'r cwrs yn rhoi pwyslais ar ddysgu trwy amrywiaeth o weithgareddau hwyliog. Rydym yn cyflwyno’r Gymraeg gan gymryd rhan mewn gemau ac amrywiaeth o weithgareddau hwyliog, podlediadau, cyfansoddi, kung fu, garddio, coginio, prosiectau gohebu a thrwy teithiau rheolaidd i ymarfer eu sgiliau Cymraeg y tu allan i’r ysgol. Rydym wedi derbyn adborth ardderchog gan rieni/gwarcheidwaid a phlant ac yn sicrhau bod ein cwrs yn canolbwyntio ar syniadau a arweinir gan ddisgyblion. Rydym yn rhoi pwyslais ar sicrhau bod eu lles yn ganolig i bob dim ac mae niferoedd ein grwpiau trochi llai yn addas iawn ar gyfer cefnogi, ymgysylltu a bondio. Mae sicrhau hapusrwydd plentyn yn rhoi cyfle teg iddynt ffynnu. Rydym yn cyfarfod ac yn gohebu’n rheolaidd gyda rhieni / gwarcheidwaid er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu diweddaru’n aml ar gynnydd a datblygiad eu plentyn.

Ymweld a'r wefan

Cwestiynnau Cyffredin

C. A fydd fy mhlentyn yn colli allan ar weithgareddau'r rhai sy'n gadael Blwyddyn 6 tra'n mynychu'r cwrs Cymraeg?
A. Rydym yn hapus i blant ddychwelyd i'w hysgolion cynradd ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau gadael / gweithgareddau mabolgampau / gwibdeithiau diwedd blwyddyn, ond gofynnwn yn garedig i chi roi gwybod i ni am unrhyw ddyddiadau na fydd eich plentyn yn bresennol.

C. A fydd fy mhlentyn yn treulio amser gyda'i gyfoedion prif ffrwd?
A. Bydd eich plentyn yn treulio tua 65% o’i amser yn yr uned drochi Cymraeg gyda’r myfyrwyr trochi Cymraeg eraill a gweddill yr amser yn mynychu rhai pynciau yn y brif ysgol gyda’u cyfoedion trochi a rhai mewn dosbarthiadau cymysg gyda disgyblion y prif ffrwd.

C. Beth fydd yn digwydd os nad yw fy mhlentyn yn mwynhau’r cwrs trochi?
A. Gobeithiwn fod pob plentyn yn mwynhau’r profiad ond mae cyfnod blasu Blwyddyn 6 yn gyfle da i’r plentyn brofi’r hyn sydd gennym i’w gynnig ac yn rhoi cyfle iddynt benderfynu os ydynt am barhau ym Mlwyddyn 7 ai peidio.

C. Nid ydym yn gallu siarad Cymraeg ac rydym yn poeni na fyddwn yn gallu cefnogi ein plentyn. A fydd angen i mi ddysgu Cymraeg hefyd?
A. Er y byddem yn eich annog i ymddiddori yn nhaith eich plentyn ac yn hapus i’ch cynghori gyda gwybodaeth ynglyn a ble i gael mynediad i gyrsiau a gynhelir yn lleol, nid oes disgwyliad ar ein rhan i chi ddysgu Cymraeg. Mae dros 70% o’r plant sy’n cael mynediad i ysgolion cyfrwng Cymraeg yn Wrecsam yn dod o gartrefi di-Gymraeg felly rydym wedi hen arfer cefnogi eu dealltwriaeth a chaffael iaith.


Newyddion diweddaraf

Criw newydd yn cychwyn ar ol hanner tymor!

Criw newydd yn cychwyn ar ol hanner tymor!

Rydym yn edrych ymlaen yn arw at gael cyfarch ein trochwyr blwyddyn 6 newydd...
Darllen mwy