
Ysgolion
Mae gan yr Awdurdod naw ysgol gynradd ac un Ysgol Uwchradd cyfrwng Cymraeg. Mae twf mawr wedi bod yn y nifer o geisiadau ar gyfer lle mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yma’n Wrecsam yn ystod y pymtheg mlynedd ddiwethaf, ac o ganlyniad mae dwy ysgol gynradd newydd wedi’u croesawu i'n plith a chapasiti yr ysgolion eraill wedi cynyddu hefyd.
Efallai eich bod yn ansicr ynglyn a dewis addysg cyfrwng Cymraeg? Cymerwch amser i ddarllen y dolenni am fanteision dwyieithrwydd, edrychwch ar wefannau’r ysgolion a chysylltwch gyda’r ysgolion er mwyn trefnu ymweliad a chael trafod eich dewis. Mae siarad gyda rhieni sydd â phlant mewn ysgol cyfrwng Cymraeg yn barod yn gallu bod o fantais hefyd. Gyda bron i 80% o blant sydd yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg yn Wrecsam yn dod o deuluoedd di-Gymraeg, mae’r ysgolion wedi hen arfer cefnogi’r plant a’u teuluoedd.
Manylion ysgolion

Ysgol Llanarmon Dyffryn Ceiriog
Llanarmon Dyffryn Ceiriog
Llangollen
Wrecsam
LL21 7LF
Pam dewis Cymraeg?
Pa bynnag iaith rydych chi'n ei siarad gartref, gall addysg cyfrwng Cymraeg roi cyfleoedd, profiadau a sgiliau ychwanegol i'ch plentyn. Mae dewis addysg cyfrwng Cymraeg yn rhoi’r cyfle i’ch plentyn ehangu ei sgiliau dwyieithog yn greadigol ac yn academaidd. Mae manteision ehangach i addysg ddwyieithog gan gynnwys effaith gadarnhaol ar alluoedd gwybyddol plentyn, ac mae’r buddion hyn yn para am oes.
Manteision bod yn ddwyieithog
- Mae meddu ar y gallu i siarad Cymraeg naill ai’n sgil hanfodol neu ddymunol ar gyfer nifer cynyddol o swyddi
- Gallu cymhwyso gwybodaeth mewn o leiaf dwy iaith
- Cynyddu'r gallu i ddysgu iaith arall
- Mae dysgu Cymraeg yn cynnig cyfleoedd i brofi dau ddiwylliant gan gynnwys llenyddiaeth, cerddoriaeth, cyfryngau digidol, a llu o bethau eraill
- Gall siarad Cymraeg helpu i feithrin dealltwriaeth lawnach o gymuned ehangach person a’i le ynddi
- Mae ymchwil yn dangos bod plant sy’n deall dwy iaith yn meddwl yn fwy hyblyg a chreadigol
- Gall helpu gyda phontio rhwng cenedlaethau os yw neiniau a theidiau neu aelodau o'r teulu yn fwy cyfforddus mewn un iaith.
I ddysgu mwy am y manteision hyn, gweler y fideos a'r erthygl isod:
Ted Talk: Manteision meddwl yn ddwyieithog
Menter Iaith: Cyfres o fideos byr (i gyd o dan 1 munud) yn amlygu manteision addysg ddwyieithog
Erthygl: Mae gan blant dwyieithog sgiliau meddwl fwy effeithiol yn ol ymchwil gan ddarlithwyr ym Mhrifysgol Bangor - Read now