
Sefydliadau

Urdd
Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922, wedi cyflawni llawer wrth gynnig profiadau Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol a Gwirfoddoli i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru. Heddiw mae gan yr Urdd 55,000 o aelodau. Mae hyn wedi eu galluogi i gyfrannu’n gadarnhaol at eu cymunedau a chymdeithas, ymestyn eu gorwelion a chynyddu eu hunan hyder. Mae’r Urdd wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd bydeang y parchir yng Nghymru.
Nod Urdd Gobaith Cymru yw sicrhau cyfle, trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, i holl ieuenctid Cymru (rhwng 8 a 25 oed) ddatblygu’n unigolion cyflawn; a’u galluogi i chwarae rhan adeiladol yn y gymdeithas, gan feithrin sgiliau personol a chymdeithasol.
[email protected]
Dilynwch ni ar Twitter
Hoffwch ni ar Facebook

Mudiad Meithrin
Mudiad gwirfoddol sy’n arbenigo ym maes gofal ac addysg blynyddoedd cynnar yw Mudiad Meithrin. Ein nod yw rhoi cyfle i bob plentyn ifanc yng Nghymru fanteisio ar wasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Cymraeg i Blant yn cynnig cyngor arbenigol, gwybodaeth a chefnogaeth i ddarpar rieni a rhieni newydd ar fuddion addysg Gymraeg a phwysigrwydd cyflwyno’r Gymraeg yn gynnar i’r plentyn bach.
Cylch Ti a Fi: Cyfle i rieni neu warchodwyr gwrdd yn rheolaidd i fwynhau chwarae gyda’u plant a chymdeithasu dros baned mewn awyrgylch Gymreig fydd yn helpu datblygiad plant o enedigaeth hyd at oed ysgol.

Menter Iaith Fflint a Wrecsam
Sefydlwyd y Fenter Iaith gyntaf yn 1991, ac erbyn hyn mae 22 ohonyn nhw’n gweithio i hybu a hyrwyddo defnydd y Gymraeg ym mhob rhan o Gymru. Mae pob Menter Iaith wedi tyfu o ddyheadau y bobl leol i ddefnyddio’r Gymraeg ymhob agwedd ar fywyd yn eu cymunedau. Mae pob Menter Iaith yn gweithredu mewn ffordd unigryw yn ddibynnol ar anghenion lleol.
Lleolir swyddfa Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn yr Wyddgrug ond rydym yn gweithio ym mhob ardal ar gyfer holl drigolion y ddwy sir gan gynnal digwyddiadau a gweithgareddau ac yn datblygu adnoddau. Mae ein holl waith wedi’i anelu at:
- Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg
- Cynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg
Menter Iaith Fflint a Wrecsam yw eich Siop Un Stop am y Gymraeg yn siroedd y Fflint a Wrecsam, felly os ydych eisiau gwybod mwy am ddigwyddiadau a gweithgareddau Cymraeg lleol, ble i gael gwasanaethau Cymraeg, sut i ddod o hyd i’r dosbarth dysgu Cymraeg gorau i chi, neu unrhyw gwestiwn arall ynglŷn a’r Gymraeg cofiwch gysylltu a ni!

Gyrfa Cymru
Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf yn gweithredu fel Gyrfa Cymru Careers Wales. Mae'r cwmni yn is-gwmni sy'n berchen i Lywodraeth Cymru a'r cyfrwng i gyflawni ei rwymedigaeth statudol i sicrhau bod gwybodaeth, cyngor ac arweiniad gyrfaoedd ar gael i blant a phobl ifanc hyd at 19 oed. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym hefyd wedi ymateb yn uniongyrchol i anghenion cynyddol oedolion drwy wasanaeth Cymru’n Gweithio. Rydym yn cyflogi dros 600 o staff gan gynnwys rheini o fewn Gyrfa Cymru a thrwy ein gwasanaeth Cymru’n Gweithio. Yn gyffredinol, mae staff wedi'u lleoli mewn 30+ o leoliadau ledled Cymru. EIN GWELEDIGAETH i greu dyfodol mwy disglair i bobl Cymru.
EIN GWELEDIGAETH i greu dyfodol mwy disglair i bobl Cymru
EIN PWRPAS i gefnogi pobl ifanc ac oedolion yng Nghymru i greu dyfodol mwy disglair. Byddwn yn gwneud hyn drwy fynediad at gymorth gyrfaoedd diduedd o ansawdd uchel sy’n cael effaith gadarnhaol ar ddeilliannau addysg, economaidd a llesiant unigolion
Byddwn yn cyflawni hyn drwy:
- Cadw pobl yn symud ymlaen i ddysgu
- Eu hannog i beidio â chau cyfleoedd yn rhy gynnar
- Ehangu gorwelion a herio rhagdybiaethau anghywir
- Creu profiadau perthnasol o fyd gwaith ac amlygiad iddo
- Cyfrannu at well canlyniadau addysgol, economaidd a chymdeithasol

RhAG
Hanfod RhAG ers y cychwyn yw cefnogi rhieni a gwarchodwyr wrth iddynt fynd ar y daith gyda’u plant drwy Addysg Gymraeg a thu hwnt. Mae’r cyfnod yn cychwyn cyn geni’r plentyn, gyda’r gwaith hyrwyddo o fewn y sector cyn geni a'r blynyddoedd cynnar, ac fe gydweithiwn gyda rhanddeiliaid yn gadarnhaol ac yn rhagweithiol i sicrhau bod mynediad at Addysg Gymraeg ar gael i bawb sydd yn ei ddymuno.
Drwy’r gwaith hwn yr ydym hefyd yn gweithio er mwyn sicrhau bod mwy o ysgolion Cymraeg yn agor ar hyd a lled Cymru fel bod y galw’n codi. Cydweithiwn yn agos gydag ystod eang o randdeiliaid - yn ysgolion, Awdurdodau Lleol, Mentrau Iaith, consortia addysg, Urdd Gobaith Cymru, Mudiad Meithrin, darpariaethau gofal preifat i enwi dim ond rhai.
Gweithiwn hefyd gyda rhieni'n uniongyrchol i'w cefnogi pan fo achosion penodol yn codi. Gwnawn hyn drwy gynghori a chynrychioli uniongyrchol.
Mae rhwydwaith o wirfoddolwyr ar draws Cymru, yn rhieni, yn ofalwyr ac yn gyfeillion i Addysg Gymraeg, yn cynrychioli’r mudiad drwy amrywiaeth o bwyllgorau a fforymau ac yn bwydo yn ôl i bwyllgor rheoli cenedlaethol. Mae croeso i unrhyw un ymuno â ni fel mudiad ac rydym yn ddiolchgar i unrhyw wirfoddolwyr sydd yn fodlon ein cynorthwyo gydag achosion penodol mewn ardaloedd ar hyd a lled Cymru.

Coleg Cambria a’r Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n arwain ar ddatblygiad addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sector Ôl-16 yng Nghymru.
Mae’r Coleg yn cyflawni hyn drwy weithio mewn partneriaeth gyda phrifysgolion, sefydliadau addysg bellach a darparwyr prentisiaethau i adeiladu cyfundrefn addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg cynhwysol sydd o’r radd flaenaf.