Gwyl yr Hydref Wrecsam - Eisteddfod 2025
30/09/24
Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn eich gwahodd i ddathlu dyfodiad yr Eisteddfod i Wrecsam y flwyddyn nesa ar Ddydd Sadwrn 5ed Hydref 2024. Bydd cyfle i fwynhau rhaglen llawn o weithgareddau i deuluoedd, perfformiadau gan ysgolion lleol, cerddoriaeth gyfoes, ynghyd â siarad gyda swyddogion a phwyllgor yr Eisteddfod i wybod mwy am sut i gymryd rhan ym mwrlwm y paratoi.
Bydd rhan fwyaf o’r arlwy yn cael ei gynnal yn Nh? Pawb – ac yn wir bydd croeso i bawb wrth i Fenter Iaith ac eraill gynnal sesiynau i blant a theuluoedd, Bragdy’r Beirdd yn cynnal sesiwn arbennig i nodi’r achlysur a cherddoriaeth gan gorau lleol ac artistiaid gorau Cymru gan gynnwys Buddug, Pys Melyn a Candelas. Hefyd yn rhan o’r ?yl bydd Bore Goffi i Ddysgwyr yn Siop Goffi Iâl y Coleg a gyda’r hwyr bydd yr artist lleol Andy Hickie a’r gr?p hudolus Pedair yn perfformio yn Eglwys San Silyn. Hyn oll AM DDIM.