Ceisio am le dosbarth meithrin: Ydych chi wedi ystyried addysg cyfrwng Cymraeg?

27/01/25
Wrth i'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i ddosbarth meithrin nesáu ar 17eg Chwefror, mae'n amser gwych i rieni feddwl am y llwybr addysg ar gyfer eu plentyn. Un opsiwn i'w ystyried yw addysg drwy'r Gymraeg, sydd yn ddewis poblogaidd oherwydd y manteision o fod yn ddwyieithog.
Mae ymchwil yn dangos yn gyson bod bod yn ddwyieithog yn gwella sgiliau cyd-destunol, yn hyrwyddo gallu i ddatrys problemau, ac yn gwella perfformiad academaidd. Yn Nghymru, mae strategaeth Cymraeg 2050 yn anelu at wneud Cymru'n genedl gyda miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac mae Wrecsam yn awyddus i sicrhau bod llwybrau mewn i addysg drwy’r Gymraeg yn hygyrch i bawb.
A wyddoch bod dros 90% o blant sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg yn Wrecsam yn dod o gartrefi nad ydynt yn siarad Cymraeg? Mae'r ysgolion hyn yn cael eu paratoi'n dda i gefnogi plant a'u teuluoedd ar eu taith iaith Gymraeg, gyda'r holl gyfathrebu'n cael ei wneud yn ddwyieithog a'r teuluoedd yn ran annatod o gymdeithas yr ysgol. Mae'r dull cynhwysol hwn yn sicrhau fod pob plentyn yn cael ei gefnogi, waeth beth yw eu sefyllfa gyda'r iaith.
Bydd sawl ysgol yn Wrecsam yn cynnal diwrnodau agored cyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau dosbarth meithrin, gan ddarparu cyfle gwych i rieni archwilio'r ddarpariaeth a deall mwy am fanteision addysg cyfrwng Cymraeg. Os oes gennych chi blant h?n mewn ysgolion cyfrwng Saesneg ond yn awyddus i archwilio llwybrau iaith Gymraeg, mae Wrecsam yn cynnig Gwasanaeth Cefnogi Hwyrddyfodiaid i'r Gymraeg, sy'n cefnogi plant sy'n dymuno mynediad hwyr at addysg cyfrwng Cymraeg hyd at Flwyddyn 9. Mae'r drws i ddysgu Cymraeg yn lled agored i bawb o hyd ac mae nifer o lwybrau ar gael i helpu plant i ddysgu'r iaith.
Os ydych chi'n awyddus i ddysgu mwy am opsiynau addysg cyfrwng Cymraeg, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â'ch ysgol Gymraeg leol neu'r gwasanaeth cefnogi hwyrddyfodiaid i'r Gymraeg. Mae'r cam cyntaf tuag at ddwyieithrwydd yn un syml a llawn cefnogaeth—pam na wnewch chi gamu ymlaen heddiw?
Ysgolion cyfrwng Cymraeg lleol: https://www.agw.cymru/cymraeg/schools/
Gwasanaeth cefnogi hwyrddyfodiaid i'r Gymraeg:https://www.agw.cymru/cymraeg/welsh-immersion-and-latecomers/
Derbyniadau ysgolion: https://www.wrecsam.gov.uk/service/derbyniadau-ysgol/derbyn-i-ddosbarthiadau-meithrin