Myfyrwyr mewn coleg yn Wrecsam

Amdanom ni

Yma yn Wrecsam, ‘rydym yn ymrwymo i gefnogi, datblygu a hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi paratoi Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA) 10 mlynedd ar gyfer 2022-2032 a baratowyd yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Byddwn yn gosod linc i'r CSGA isod wedi iddo gael ei gymeradwyo a’i gyhoeddi. Mae’r cynllun drafft yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer addysg Gymraeg, ein targedau a’r camau gweithredu rydym yn credu fydd yn arwain at gyflawni y saith deilliant gofynnol. Y nôd yw cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn addysg dros y 10 mlynedd nesaf. Bydd y deilliannau hyn hefyd yn cyfrannu at gyflawni Strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru, sy’n ceisio cael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Darparwyd y cynllun gan gydweithio a chynllunio yn agos gydag asiantaethau lleol, yr Awdurdod Leol a Llywodraeth Cymru. Cynhelir cyfarfodydd Fforwm Cymraeg mewn Addysg yn achlysurol er mwyn rhannu datblygiadau a chyfrannu mewn modd adeiladol fel fforwm tuag at ddatblygiad addysg cyfrwng Cymraeg yn Wrecsam. Mae’r canlynol yn ran o’r bwyllgor y fforwm:

  • Cynrychiolydd y swyddfa wasg
  • Cynrychiolydd cyllid
  • Cynghorwyr
  • Cynrychiolwyr penaethiaid ysgolion Wrecsam

Creuwyd y wefan gan Wasanaeth Hwyrddyfodiaid i'r Gymraeg fel rhan o’u hymdrechion i gyflawni goblygiadau hyrwyddo a chefnogi addysg cyfrwng Cymraeg y CGSA. Ariannwyd y prosiect gan Grant Trochi’r Gymraeg 2021-2022 gan Lywodraeth Cymru.

Dilynwch y linc isod er mwyn dysgu mwy am y Cynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg